Croeso i Bwyd Da Bangor

Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Sesiwn pryd bwyd sy’n gyfeillgar i ASD

8 May 2022

neurodiverse event 1

Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn cynnal ein sesiwn pryd bwyd cyntaf sy’n gyfeillgar i ASD dydd Sul 8 Mai.

Byddwn yn gweini rhwng 1pm-5:30pm gyda byrddau ar gael mewn slotiau o 90 munud, am 1pm, 2:30pm a 4pm.

Yn y cynllun arbrawf hwn, ein gobaith yw darparu cinio dydd Sul mewn amgylchfyd diragfarn lle mae croeso i blant gael rhyddid i fynegi eu hunain. Byddwn yn darparu teganau synhwyraidd , ac os cawn ddigon o rybudd ymlaen llaw rydym yn awyddus i ymateb i bob cais dietegol, beth bynnag y bo.

Rydym yn ymwybodol pa mor anodd ydi hi i deuluoedd gyda phlant ASD i fwynhau bwyta allan, felly ein gobaith yw y gall hwn ddatblygu i fod yn ddigwyddiad rheolaidd ar ein calendr.

Details

Date:
8 May 2022