Croeso i Bwyd Da Bangor

Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Clwb Sinema Achlysurol – Hit The Road

26 January 2023

hit the road film

Clwb Sinema Achlysurol

Bwyd 6:30pm, Ffilm 7:30pm

Y FWYDLEN

Stiw cig oen gyda ffa a pherlysiau Persiaidd  neu  Stiw tomato a phlanhigyn wy Persiaidd.

Salad nionyn, ciwcymbr a thomato

Reis gyda chrwst bara

Cacen lemwn a geraniwm Persiaidd, gyda hufen blas dŵr-rhos

neu Browni Siocled a charamel

Y  FFILM

Hit the Road

Mae Panah Panahi, mab a chydweithiwr y meistr o Iran, Jafar Panahi, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y ddrama ddoniol, finiog a hynod deimladwy hon. Mae Hit the Road yn enghraifft o draddodiad Iranaidd o’r ffilm taith ffordd ond gyda throeon trwstan hollol annisgwyl. Mae’n dilyn teulu o bedwar – dau riant canol oed a’u meibion, un sy’n oedolyn ansiaradus, a’r llall yn blentyn bywiog chwe blwydd oed – wrth iddynt deithio yng nghefn gwlad Iran. Yn ystod y daith, maent yn hel atgofion o’r gorffennol, yn ymrafael a’u hofnau o’r hyn na wyddant, a ffwdan oherwydd bod y ci yn sâl. Yn ystod y ffilm mae’r emosiwn yn adeiladu wrth i’r stori ddatgelu gwir bwrpas y daith. Drama ddyneiddiol yw’r canlyniad.

Yn ôl Mark Kermode mae’r ffilm yn “gyfuniad o dorcalon a llawenydd, o ddyfnder  ac abswrdiaeth sy’n allweddol i lwyddiant y ffilm hudolus hon.”

A beautifully acted drama with steadily cumulative force, Hit the Road uses one family’s journey to make trenchant observations about society as a whole.” – Rotten Tomatoes – 94% rating

“Spare and subtle, but endlessly powerful too.” – Financial Times

I archebu lle, dylech e-bostio g.hughes78@hotmail.co.uk neu ffonio 01248 565156 neu 07989 70919

Details

Date:
26 January 2023