- This event has passed.
Clwb Sinema Achlysurol – The Quiet Girl
24 November 2022
Dymuna Bwyd Da Bangor eich gwahodd i’w ‘Clwb Sinema Achlysurol.’
Ymunwch â ni dydd Iau yma am bryd o fwyd 2 gwrs a ffilm.
Bydd y bwyd yn cael ei weini o 6:30pm ac mae’r Ffilm yn dechrau am 7:30pm.
Y FWYDLEN
Stiw Cig Oen Gwyddelig gyda thwmplenni perlysiau, neu Stiw Figan Gwyddelig gyda thwmplenni perlysiau
Cacen Afal Cork, hufen fanila neu Browni Siocled, caramel hallt (figan) (di-glwten)
Y FFILM
The Quiet Girl
Ffilm yn yr iaith Wyddeleg wedi’i hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Colm Bairéad. Mae’r ffilm wedi’i gosod ym 1981, ac mae’n dilyn merch naw fewnblyg sy’n cael ei chroesawu’n gynnes i fferm perthnasau pell yn Rinn Gaeltacht, Swydd Waterford dros wyliau’r haf.
94 munud
12A
Iwerddon
Argymhellir yn gryf eich bod yn archebu lle ymlaen llaw. Y cyntaf i’r felin… Ni ellir archebu lle ar gyfer y ffilm yn unig.
I archebu lle, e-bostiwch info@bwyddabangor.co.uk neu ffoniwch 01248 565156.