Mae Bwyd Da Bangor yn fenter arloesol sy’n cyfuno rhaglen rhannu bwyd sy’n seiliedig ar aelodaeth, ail-ddosbarthu stoc dros ben o archfarchnadoedd, gyda chaffi hyfforddi o ansawdd uchel.
Mae Bwyd Da Bangor yn cynnig cyfle unigryw i fwyd fod yn alluogydd i ystod eang o gyfleoedd i gefnogi unigolion a chymunedau.
Mae’r clwb bwyd yn darparu mynediad at gynnyrch bwyd fforddiadwy i aelodau, sy’n talu tanysgrifiad wythnosol ac yn derbyn bwyd i lawer gwaith gwerth y tanysgrifiad
Bwriad ehangach Bwyd Da Bangor yw cefnogi unigolion i fynd yn ôl i gyflogaeth. Mae bwyd yn alluogwr, yn cefnogi pobl gyda phroblemau iechyd meddwl, rhai sy’n gwella neu bobl sy’n dioddef oherwydd effeithiau digartrefedd. Ond mae ansawdd y bwyd ac awyrgylch gyfeillgar yr un mor bwysig.
Amcan Bwyd Da Bangor yw bod yn rhaglen enghreifftiol o arfer dda. Mae wedi’i wreiddio ym Mangor, ac am ddathlu popeth sy’n dda am Fangor, gyda’r bwriad o gefnogi ac ysbrydoli mentrau tebyg mewn rhanbarthau eraill wrth iddynt ddilyn eu siwrnai.
Mae Bwyd Da Bangor yn mynd i’r afael â nifer o feysydd blaenoriaeth, gan gynnwys:
- Cefnogi cynhyrchu bwyd a lleihau’r ôl-troed carbon.
- Lleddfu tlodi bwyd.
- Helpu i ddileu gwastraff bwyd.
- Cyfrannu at adfywiad economaidd canol dinas Bangor.
- Creu cyflogaeth.
- Helpu unigolion i symud ymlaen o ddigartrefedd.
- Cefnogi unigolion sy’n dod drwy adsefydlu cyffuriau ac alcohol.
- Creu cyfleoedd gwirfoddoli.
Mae Bwyd Da Bangor wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Sefydliad Steve Morgan, yn ogystal â Thai Gogledd Cymru ac Adra (Tai) Cyfyngedig.
Mae’r safle yn gartref i glwb bwyd, caffi, deli, a bistro. Yn ychwanegol mae gofod i artistiaid lleol arddangos eu gwaith a dyddiau meic agored sy’n rhoi cyfle i dalentau lleol arddangos eu doniau. Mae Bwyd Da Bangor hefyd ar agor ar gyfer archebu achlysuron a digwyddiadau arbennig, fel priodasau a phen-blwyddi.