Croeso i Bwyd Da Bangor

Rydyn ni’n recriwtio

Mae Bwyd Da Bangor yn chwilio am Sous/2il Chef i ymuno gyda’r tîm.

Yn ddelfrydol, bydd gennych brofiad o weithio mewn ceginau prysur yn defnyddio cynnyrch organig ffres a thymhorol gyda’r gallu i arwain y tîm os yw’r Prif Gogydd i ffwrdd.

Mae hon yn swydd gyflogedig sy’n talu £24k y flwyddyn. Ni fydd disgwyl i chi weithio mwy na 45 awr yr wythnos, ond bydd unrhyw oriau ychwanegol yn cael eu talu ar gyfradd benodol bob awr.

Ar hyn o bryd mae’r gegin ar agor o 7-4pm dydd Llun- dydd Sadwrn er y byddwn yn edrych i gynnig gwasanaeth gyda’r nos ddwy noson yr wythnos dros y misoedd nesaf.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais e-bostio copi o’u CV at info@bwyddabangor.co.uk

11 Awst yw’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau