Sut mae’n gweithio
Bob blwyddyn, caiff miliynau o dunelli o fwyd ei wastraffu a’i anfon i dirlenwad. Mae effaith amgylcheddol hyn yn enfawr, a bwyd cwbl addas i’w fwyta y gellid ei ddefnyddio gan y gymuned yn cael ei wastraffu.
Mae’r tîm yn Bwyd Da Bangor yn cael gafael ar y nwyddau ansawdd uchel hyn cyn iddynt fynd i’r bin gwastraff, a’i roi i aelodau ein clwb gweddillion bwyd yn rhad iawn.
1. I ddod yn aelod o’r clwb, mae angen creu cyfrif ar y dudalen hon.
2. Byddwn yn cysylltu gyda chi i drefnu diwrnod casglu
3. Am £5 yr wythnos, byddwch yn derbyn gwerth tua £20 o nwyddau
4. Neu, am £10 yr wythnos byddwch yn derbyn gwerth £20 o nwyddau a thalu gwerth pris ymaelodi o fwyd ymlaen i’n banc bwyd.
Archebu Digwyddiad
Ymunwch gyda ni ar gyfer sesiynau Meic Agored ar ddydd Mawrth, dydd Iau a dydd Sadwrn. Rydym yn cynnig digwyddiadau unigryw yma yn Bwyd Da Bangor. Beth am ddod yma ar gyfer eich achlysuron arbennig – boed yn ben-blwydd, priodas neu ben-blwydd priodas!